GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

014 - Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 19 Hydref 2022

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Na

Y weithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Y cefndir

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

Crynodeb

Mae Llygryddion Organig Parhaus (POPs) yn sylweddau cemegol gwenwynig sy'n dadelfennu'n araf ac yn gallu mynd i mewn i'r gadwyn fwyd o ganlyniad. Mae DDT yn enghraifft o Lygrydd Organig Parhaus.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad (EU) 2019/1021 a ddargedwir Senedd Ewrop a’r Cyngor ar Lygryddion Organig Parhaus ("Rheoliad POPs a ddargedwir"). Pan gafodd diffygion yn y Rheoliad Llygryddion Organig Parhaus a ddargedwir eu cywiro er mwyn iddo weithredu’n effeithiol mewn cyfraith ddomestig ar ôl Ymadael â’r UE, gwnaed tri gwall. Mae’r Rheoliadau hyn yn cywiro’r tri gwall hynny drwy:

1.        Ddileu dwy o swyddogaethau’r Comisiwn Ewropeaidd, a rhoi swyddogaethau’r awdurdod priodol yn eu lle (yng Nghymru, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol).

2.      Ailsefydlu cyfres o eithriadau a gafodd eu hepgor mewn camgymeriad.

3.      Hepgor dwy ddarpariaeth nad ydynt yn angenrheidiol oherwydd nad oes ganddynt ddim effaith gyfreithiol.

Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod Prydain Fawr yn cydymffurfio â'i chyfrifoldebau o dan Gonfensiwn Stockholm, sy'n ceisio gwahardd, dileu neu gyfyngu ar gynhyrchu a defnyddio Llygryddion Organig Parhaus.

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

Mae Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 20 Hydref 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.